TELERAU AC AMODAU

Ynghylch Emyr

Emyr yw safle cyfnewid ffeiliau diogel Data Cymru sy'n cynnig Data Cymru a chyrff eraill y gallu i drosglwyddo dogfennau'n ddiogel. Mae ganddo lefel ddiogelwch Haen Soced Ddiogel (SSL) sy'n sicrhau amgryptiadau perthnasol o'r sgrin mewngofnodi a thrwy gydol gweithrediadau Emyr. Mae Emyr yn cael ei gynnal, ei ddatblygu a'i reoli gan Data Cymru ("ni").

Telerau defnydd

Mae Emyr yn offeryn mynediad cyfyngedig. Mae mynediad yn cael ei gyfyngu i’r defnyddwyr canlynol ("chi"):

  • Darparwyr data;
  • Staff Data Cymru; a
  • Chyrff y mae Data Cymru yn gweithio gyda hwy.

Bydd gan rai cyflogeion penodol Data Cymru fynediad gweinyddol llym i’r gronfa ddata sylfaenol at ddibenion newidiadau technegol a datblygiad.

Mae’r telerau defnydd hyn (ynghyd â’r dogfennau mae’n cyfeirio atynt) yn dweud wrthych chi’r telerau defnydd y cewch ddefnyddio Emyr arnynt.

Darllenwch y telerau defnydd hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio Emyr, gan y bydd y rhain yn berthnasol i’ch defnydd o’r wefan. Rydym yn argymell eich bod yn cadw, neu’n argraffu, copi o hyn i gyfeirio ato yn y dyfodol.

Drwy ddefnyddio Emyr, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnydd hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio Emyr.

Newidiadau i’r telerau hyn

Mae’n bosibl y byddwn yn diwygio’r telerau defnydd hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon. Gwiriwch y dudalen hon o bryd i’w gilydd i sylwi ar unrhyw newidiadau rydym yn eu gwneud, am eu bod yn eich rhwymo.

Cyrchu Emyr

Bydd Data Cymru yn sefydlu cyfrifon defnyddwyr perthnasol mae eu hangen ac yn rhannu’r wybodaeth hon â’r defnyddiwr perthnasol. Wrth sefydlu cyfrif defnyddiwr, gofynnwn i chi am wybodaeth berthnasol e.e. cyfeiriad e-bost ac enw, er mwyn creu proffil defnyddiwr.

Caiff yr wybodaeth a rowch ei defnyddio i greu a rheoli’ch cyfrif. Mae’r wybodaeth ddilynol yn orfodol - eich enw, cyfeiriad e-bost dilys, eich sefydliad a’r prosiect rydych yn cymryd rhan ynddo. Nid yw defnyddwyr di-enw yn cael eu derbyn. Bydd eich enw defnyddiwr yn dilyn confensiwn prosiect penodol neu gyfuniad o’ch sefydliad, priflythyren gyntaf eich enw a'ch cyfenw.

Gall Data Cymru gofrestru defnyddwyr newydd. Mae’n bosibl y gofynnwn i chi mewn e-bost gasglu’ch manylion cysylltu a fydd wedyn yn cael eu defnyddio i greu’ch cyfrif defnyddiwr.

Ymddygiad a chyfrifoldeb

Disgwyliwn i chi arfer moesau da ac ystyriaeth wrth ddefnyddio Emyr.

Chi sy’n gyfrifol am y ffeiliau rydych yn eu cyfnewid yn ôl i Data Cymru.

Byddwch yn derbyn manylion mewngofnodi fel defnyddiwr a chyfrinair pan fydd Data Cymru yn eich cofrestru. Rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw ddefnyddiwr ar unrhyw adeg os ydych, yn ein barn resymol ni, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o ddarpariaethau’r telerau defnydd hyn.

Amser di-fynd

Sylwch ein bod yn cadw’r hawl i drefnu amser di-fynd ar gyfer y safle am waith cynnal a chadw, atgyweiriadau a gwelliannau i’r gwasanaeth – caiff hyn ei wneud y tu allan i oriau busnes.

Ni fyddwn yn atebol i chi os na fydd Emyr ar gael am unrhyw reswm ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.

Rheoli data

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn unrhyw wybodaeth a gasglwn oddi wrthych. Defnyddiwn dechnolegau datblygedig a meddalwedd amgryptio i ddiogelu’ch data, ac rydym yn parchu safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad iddo heb awdurdod.

Defnyddiwn is-broseswyr, NSUK (Net Support UK), i storio’n data yn ddiogel. Mae’r holl ddata yn cael ei storio yn y Deyrnas Unedig.

Diogelu data

Bydd Data Cymru ar bob adeg yn cydymffurfio â’r Cyfreithiau Diogelu Data. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn diogelu’r data personol a gasglwn oddi wrthych, gweler ein Polisi Preifatrwydd.

Mae Data Cymru yn gweithredu fel Rheolydd Data am unrhyw ddata personol y gofynnir i chi ei roi wrth gofrestru.

Mae’n bosibl y bydd eich enw defnyddiwr penodedig yn weladwy i ddefnyddwyr eraill mewn rhai mannau penodol o Emyr. Mae’r holl fanylion eraill yn gwbl gyfrinachol, ac nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon.

Defnyddiwn is-broseswyr, NSUK, i storio’n data yn ddiogel. Fel y cyfryw, maent yn gweithredu o fewn y telerau a bennir gennym ni. Mae’r holl ddata yn cael ei storio yn y Deyrnas Unedig.

Mae Data Cymru yn gweithredu fel Prosesydd Data am yr holl ddata a rowch neu a lanlwythwch i Emyr. Mae hyn yn golygu mai chi yw’r Rheolydd Data. Rydym yn annog mewnbynnu gwybodaeth gywir ac amserol.

Byddwn bob amser yn cyfyngu mynediad i’ch data personol i gyflogeion sydd wedi llofnodi cytundebau cyfrinachedd priodol.

Byddwn bob amser yn cynnal mesurau ffisegol a sefydliadol priodol i amddiffyn data personol sy’n perthyn i chi a/neu’n cael ei rannu gennych chi a sicrhawn ei fod yn ddiogel. Defnyddiwn dechnolegau datblygedig a meddalwedd amgryptio i ddiogelu’ch data, ac rydym yn parchu safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad iddo heb awdurdod.

Lle bo’n briodol, caiff gwybodaeth ei storio dim ond am y cyfnod mae ei angen neu sy’n ofynnol dan statud a chaiff ei gwaredu’n briodol. Protocol Emyr yw peidio â dileu cofnodion, am ei bod yn bwysig cynnal llwybr archwiliad data sy’n dogfennu defnydd y safle a gall Data Cymru ac awdurdodau lleol a darparwyr data eraill ei ddefnyddio i ddeall pryd y cafodd dogfennau eu cyfnewid.

Datgelu

Mae’n bosibl y rhannwn ddata cyfanredol a di-enw o Emyr â sefydliadau mae Data Cymru yn gweithio gyda hwy.

Cyfyngu atebolrwydd

Ni fydd dim yn y telerau defnydd hyn yn eithrio, neu’n cyfyngu, ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n codi o’n hesgeulustod ni, neu ein twyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na all gael ei eithrio na’i gyfyngu gan gyfraith Lloegr.

I’r graddau a ganiateir dan y gyfraith, rydym yn eithrio pob amod, gwarant, cynrychiolaeth neu deler arall a all fod yn gymwys i Emyr neu unrhyw gynnwys sydd arno, boed datganedig neu ymhlyg.

Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am unrhyw golled neu ddifrod, boed mewn contract, y gyfraith gamweddu (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyn yn oed os gellid ei ragweld, sy’n codi o dan neu mewn perthynas â:

  • Defnyddio, neu anallu i ddefnyddio, Emyr; neu
  • Ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a ddangosir ar Emyr.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a berir gan feirws, ymosodiad gwasgaredig atal gwasanaeth, neu ddeunydd arall neu’n niweidiol yn dechnolegol a all heintio’ch offer cyfrifiadur, rhaglenni cyfrifiadur, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o Emyr neu am eich bod wedi lawrlwytho unrhyw gynnwys sydd arno, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig ag ef.

Nid ydym yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau y mae cysylltiadau â hwy ar Emyr. Mae cysylltiadau o’r fath yn cael eu darparu er gwybodaeth i chi’n unig ac ni ddylent gael eu dehongli fel cymeradwyaeth gennym ni o’r gwefannau cysylltiedig hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o’ch defnydd ohonynt. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau na’r adnoddau hynny.

Hawliau Eiddo Deallusol

Ni yw perchennog neu drwyddedai holl Hawliau Eiddo Deallusol (IPR) ein safle. Mae cyfreithiau hawlfraint a chytuniadau o amgylch y byd yn amddiffyn y gweithiau hyn. Cedwir pob hawl o’r fath.

Feirysau

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwasanaeth yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau neu feirysau. Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu’ch technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadur a phlatfform er mwyn cael mynediad i Emyr. Dylech ddefnyddio’ch meddalwedd amddiffyn rhag feirysau eich hun.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio Emyr drwy gyflwyno, yn fwriadol, feirysau, trojans, mwydyn, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i Emyr, y gweinydd mae Emyr yn cael ei storio arno neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig ag Emyr.

Rhaid i chi beidio ag ymosod ar Emyr drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad gwasgaredig atal gwasanaeth. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd unrhyw doriad o’r fath i’r awdurdodau perthnasol gorfodi’r gyfraith a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu’ch hunaniaeth iddynt. Yn achos y cyfryw doriad, bydd eich hawl i ddefnyddio Emyr yn dod i ben ar unwaith.

Y Gyfraith Gymwys

Cyfraith Lloegr sy’n llywodraethu’r telerau defnydd hyn, ei bwnc a’i ffurfiant. Rydych chi a ninnau fel ein gilydd yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth an-neilltuedig. Fodd bynnag, os ydych yn breswylydd Gogledd Iwerddon gallwch ddwyn achos hefyd yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn breswylydd yr Alban, gallwch ddwyn achos hefyd yn yr Alban.

Toradwyedd

Os bernir bod unrhyw gymal neu is-gymal y Telerau ac Amodau hyn yn anorfodadwy gan lys cymwys â chanddo’r awdurdodaeth briodol, caiff y cymal neu is-gymal hwnnw ei dorri ac ni fydd yn effeithio ar weddill y cytundeb, gan gynnwys unrhyw gymalau neu is-gymalau eraill.

Cysylltwch â ni

I gysylltu â ni, e-bostiwch Emyr@data.cymru

Diolch am ddefnyddio Emyr.